O 23 Ionawr 2025, bydd busnesau newydd a leolir ym ‘Mharth Ffyniant Ynys Môn’ a ‘Safle Treth Canol Ynys Môn’ yn elwa ar ryddhad treth arbennig, gan ddenu buddsoddiad a hybu twf economaidd ledled Gogledd Cymru. Disgwylir i’r offeryn statudol ar gyfer ‘Safle Treth Gogledd Ynys Môn’ gael ei osod ym mis Ebrill 2025.
Ochr yn ochr â dynodi’r ddau safle treth, mae’r Porthladd Rhydd wedi cyflwyno’i Achos Busnes Llawn i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Ar ôl i’r Porthladd Rhydd gael ei roi ar waith, bydd yn cyflawni amcanion cyffredin Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn perthynas â rhaglen ehangach y porthladdoedd rhydd, yn cynnwys sicrhau y bydd y Porthladd Rhydd yn hwb ar gyfer masnach fyd-eang, arloesi a buddsoddi, gan gefnogi doniau lleol a creu cyfleoedd gwaith newydd, yn enwedig yn y sector ynni carbon isel.
Medd Ian Davies, Pennaeth Awdurdodau Porthladdoedd y DU yn Stena Line:
“Rydym wrth ein bodd bod y safleoedd treth wedi’u cymeradwyo erbyn hyn, gan ein galluogi i gymryd y cam nesaf tuag at ddod â Phorthladd Rhydd Ynys Môn yn fyw. Bydd dynodi’r safleoedd treth newydd yn ein galluogi i ddenu buddsoddiad a hybu twf economaidd ledled Gogledd Cymru. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chymunedau Ynys Môn a rhanddeiliaid lleol wrth inni barhau i weithio i gyflwyno swyddi a thechnoleg arloesol i Ynys Môn.”
Mae prosiect y Porthladd Rhydd yn cyd-fynd â gweledigaeth Cyngor Sir Ynys Môn, sef ‘Creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus lle gall pobl ffynnu’ a’i Amcan Strategol Economaidd, sef ‘sicrhau cyfleoedd i ddatblygu economi’r Ynys’.
Yn ôl Dylan J. Williams, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn:
“Mae dynodi safleoedd treth Porthladd Rhydd Ynys Môn a chymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol yn ddau gam pwysig tuag at gymeradwyo ein hachos busnes llawn a rhyddhau cyllid hollbwysig y llywodraeth. Fel Corff Atebol y prosiect, bydd y Cyngor Sir yn rheoli oddeutu £25m, a fydd yn galluogi busnesau oddi mewn i Borthladd Rhydd Ynys Môn i elwa ar ryddhad treth a manteision eraill.”
“Eisoes, mae ein partneriaeth gyda Stena Line wedi arwain at fuddsoddi llawer iawn o waith, amser ac ymdrech yn y dasg o wireddu Porthladd Rhydd Ynys Môn. Trwy weithio’n agos gyda’r ddwy lywodraeth a chyda phartneriaid hollbwysig eraill, yn lleol ac yn rhanbarthol, byddwn yn parhau i wneud cynnydd er mwyn gwireddu’r prosiect a chyflawni buddsoddiad sylweddol a chyfleoedd economaidd hirdymor er budd yr ynys a rhanbarth ehangach Gogledd Cymru.”
Contact us