Yn dilyn ein cais llwyddiannus am statws Porthladd Rhydd, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU bellach wedi cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn ar gyfer Porthladd Rhydd Ynys Môn. Cyn bo hir, bydd hyn yn datgloi gwerth £25 miliwn o gyfalaf sbarduno gan y Llywodraeth, a fydd yn galluogi sefydlu’r Porthladd Rhydd fel endid busnes.
Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn yn cynnig cyfle buddsoddi unigryw ar gyfer busnesau sy’n ystyried eu gweithrediadau yn y dyfodol, yn ogystal â rhoi hwb i economi fywiog Ynys Môn a ffyniant cymunedau ledled Gogledd Cymru.
Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn wedi ymrwymo i gyflawni amcanion cyfunol Llywodraeth Cymru a’r DU o amgylch y rhaglen porthladd rhydd ehangach, gan gynnwys sicrhau bod y Porthladd Rhydd yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer masnach fyd-eang, arloesi a buddsoddi, cefnogi talent leol a chroesawu cyfleoedd cyflogaeth newydd.
Wedi’i arwain gan brif bartneriaid y Porthladd Rhydd – Stena Line a Chyngor Sir Ynys Môn – bydd Porthladd Rhydd Ynys Môn yn helpu cefnogi ffyniant economaidd economi Gogledd Cymru, gan ddarparu cyflogaeth a buddion cymdeithasol sy’n helpu cefnogi datblygiad cymunedau lleol. Mae trefniadau tollau a threth unigryw’r Porthladd Rhydd, talent leol, sefydliadau addysg a sgiliau mawreddog – yn ogystal ag ymrwymiad diwyro i ymchwil ac arloesi – yn ei wneud nid yn unig yn bartner perffaith i fusnesau o bob maint, ond hefyd yn ganolog i gystadleurwydd hirdymor UK plc.
Bydd prif bartneriaid a bwrdd llywodraethu Porthladd Rhydd Ynys Môn yn sicrhau bod y Porthladd Rhydd yn cydymffurfio â’r canllawiau a’r rheoliadau cyflogaeth llym fel y’u nodir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Yn benodol, bydd y Porthladd Rhydd yn parhau i gydymffurfio ag ymrwymiadau sero net Llywodraeth Cymru yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU bellach wedi cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn (FBC) ar gyfer Porthladd Rhydd Ynys Môn. Daw hyn yn dilyn cymeradwyo achos busnes amlinellol y Porthladd Rhydd yn gynharach eleni, a neilltuodd ddau brif safle treth ar draws yr ynys. Gyda’r ddau achos busnes llawn wedi’u cymeradwyo, mae pob cymeradwyaeth ofynnol bellach yn eu lle, gan alluogi’r Porthladd Rhydd i drosglwyddo i’w gam cyflawni. Cyn bo hir, bydd cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn yn datgloi £25 miliwn o gyfalaf sbarduno’r Llywodraeth, a fydd yn galluogi sefydlu’r Porthladd Rhydd fel endid busnes. Disgwylir cymeradwyo Safle Treth Gogledd Ynys Môn yn ddiweddarach eleni.
Mae Ynys Môn yn cael cefnogaeth eithriadol gan lywodraethau Cymru a’r DU, gyda chyllid cychwynnol o hyd at £26m i sicrhau ei llwyddiant. Roedd y gymeradwyaeth hon yn amlwg yn ystod cyhoeddiad y Porthladd Rhydd, a fynychwyd gan Brif Weinidog y DU ar y pryd, Rishi Sunak, Prif Weinidog Cymru ar y pryd, Mark Drakeford, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, David TC Davies.
Mae’r Porthladd Rhydd wedi derbyn cefnogaeth wleidyddol fawr leol a dwybleidiol. Mae dros 2,000 o drigolion lleol wedi cofrestru eu cefnogaeth i’r prosiect, dros 400 wedi ysgrifennu i gefnogi’r cais, gan gydnabod bod Ynys Môn wedi bod yn amddifad o fuddsoddiad economaidd ers rhy hir. Mae’r Porthladd Rhydd hefyd wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU a Phlaid Cymru.
I ddysgu mwy am sut y bydd y Porthladd Rhydd yn cefnogi cymunedau lleol, yn gwarchod treftadaeth falch yr Ynysoedd ac yn gweithio gyda rhaglenni presennol i hybu datblygiad cynaliadwy a sgiliau hirdymor, gweler yma.
I ddysgu mwy am y trefniadau treth, tollau a masnachu unigryw sy’n gwneud Porthladd Rhydd Ynys Môn yn bartner rhagorol i’ch busnes, gweler yma.
Bydd Parc Gwyddoniaeth M-SParc yn chwarae rhan bwysig fel safle treth Porthladd Rhydd, ac mae'n ganolog i ddatblygiad a chyflwyniad ein rhaglen sgiliau Porthladd Rhydd.




Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn ar gyfer y Porthladd Rhydd, gan nodi cyfnod pwysig yn natblygiad y Porthladd Rhydd.
Fel rhan o’r broses barhaus hon, mae Stena Line a CSYM yn awyddus i weithio gyda busnesau a darpar fuddsoddwyr sy’n awyddus i ddatblygu gweithrediadau o fewn safleoedd tollau a threth arbennig y Porthladd Rhydd, ac elwa ar y manteision masnachol a ddaw yn sgil y prosiect.
Os oes gan eich busnes ddiddordeb mewn elwa ar y cyfleoedd unigryw y mae’r Porthladd Rhydd yn eu cynnig – yn amrywio o brosesau gweithgynhyrchu symlach, hawddfreintiau rheoleiddiol a chymhellion treth – llenwch y ffurflen a bydd y tîm yn cysylltu’n ôl.
Mae "*" yn dynodi meysydd gofynnol
"*" indicates required fields
Last Energy
“Byddai statws porthladd rhydd ar Ynys Môn yn denu technolegau a diwydiannau arloesol i ogledd Cymru, a chreu cyfle i’r diwydiannau hyn gael eu pweru gan ynni glân o’r cychwyn cyntaf.
Yn benodol, byddai statws porthladd rhydd ar gyfer Ynys Môn yn dylanwadu ar Last Energy i ystyried yr ardal ar gyfer ei gyflwyniad SMR cyntaf, gan ddod â £1.4 biliwn o fuddsoddiad i’r ardal.”
Michelle Brechtelsbauer
Dirprwy Bennaeth Strategaeth, Last Energy
Grŵp Llandrillo Menai
“Fel prif ddarparwr Addysg Bellach a Phrentisiaeth yr Ynys, rydym yn gweld ein hunain fel rhannau annatod o unrhyw brosiect datblygu economaidd ar yr ynys megis y Porthladd Rhydd. Gallwn warantu cronfa o bobl ifanc medrus ac unigolion sydd wedi ail-sgilio i gefnogi’r cyfleoedd a grëir gan y Porthladd Rhydd."
Dafydd Evans
Prif Swyddog Gweithredol, Grŵp Llandrillo Menai
Menter Môn
“Er bod Ynys Môn ar hyn o bryd yn parhau’n ddeniadol ar gyfer buddsoddiad hirdymor, byddai ychwanegu'r porthladd rhydd arfaethedig yn gwella’r hyn sydd gan yr Ynys i’w gynnig i’n busnes ac yn atgyfnerthu ei safle fel ardal o fuddsoddiad pellach gan ddatblygwyr a chwmnïau cadwyni cyflenwi cysylltiedig.
Yn benodol, byddem yn edrych at ddenu dros £20 miliwn o fuddsoddiad er mwyn adeiladu, trefnu a gwasanaethu Hwb Hydrogen Caergybi ar Ynys Môn.”
Dafydd Gruffydd
Rheolwr Gyfarwyddwr, Menter Môn Cyf
Menter Môn Morlais Cyf
“Rydym yn credu’n gryf bod prosbectws diwydiant Ynni Ffrwd Llanw yng Nghaergybi’n yn REAL. Ar ôl sicrhau caniatâd, a bod ar y trywydd cywir nawr i gwblhau’r £32m o waith seilwaith erbyn mis Hydref 2023, mae’r cais Porthladd Rhydd yn dod yn elfen hynod ddylanwadol i sicrhau’r budd economaidd gorau posib i Gymru a’r DU.
Mae hyn yn arloesedd mewn maes twf adnabyddus o’r economi. Mae’n gweddu’n berffaith ar gyfer strategaeth ddiwydiannol ac yn darparu’r DU â chyfle unigryw i sefydlu ei hun fel arweinydd byd-eang o ran ynni adnewyddadwy morol arloesol.”
Gerallt Llewelyn Jones
Cyfarwyddwr, Menter Môn Morlais Cyf
Rolls-Royce SMR
Er bod Ynys Môn ar hyn o bryd yn parhau’n ddeniadol ar gyfer buddsoddiad hirdymor, gallai ychwanegu'r porthladd rhydd arfaethedig, atgyfnerthu’r hyn sydd gan yr Ynys i’w gynnig i'n busnes.
Bydd SMR Rolls-Royce sengl yn cynhyrchu 470MW o allbwn trydan, gan ddarparu atyniad sylweddol ar gyfer defnyddwyr ynni dwys a allai hefyd weld gwerth aruthrol mewn sefydlu statws porthladd rhydd. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i bweru’r ynys a sicrhau bod Ynys Môn yn parhau i fod yn ddeniadol i fuddsoddiad ac arloesedd newydd.”
Alastair Evans
Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol, Rolls-Royce SMR
“Er bod Ynys Môn ar hyn o bryd yn parhau’n ddeniadol ar gyfer prosiect pŵer niwclear newydd, byddai ychwanegu’r porthladd rhydd arfaethedig yn cefnogi egwyddor agosrwydd y Cyngor o fudd economaidd ar gyfer Wylfa Newydd.
Mae prosiect gorsaf bŵer AP1000 graddfa fawr ar y safle hwn yn creu’r potensial i Ynys Môn fod yn hwb technoleg niwclear y DU sy’n denu clwstwr o fusnesau cadwyn gyflenwi; byddai’r busnesau hyn ar y dechrau yn sefydlu ar gyfer y prosiect a gallant wedyn ffurfio sylfaen hwb allforio yn y dyfodol ar gyfer y DU a thramor. Byddai sefydlu porthladd rhydd ar Ynys Môn yn atgyfnerthu atyniad y safle ymhellach o ystyried y buddion ariannol ac economaidd posib i’r prosiect.
Ivan Baldwin
Cyfarwyddwr Datblygu Busnes, Pŵer Niwclear y DU a’r UE, Bechtel Nuclear Power Company Ltd.
Assystem
“Mae cefnogaeth Assystem i’r orsaf pŵer niwclear newydd arfaethedig yn Wylfa Newydd wedi hen sefydlu. Rydym yn awyddus i lywodraeth y DU barhau i gefnogi’r amodau i ddenu’r technolegau a’r datblygiadau arloesol diweddaraf i ogledd Cymru. Yn wir, mae Ynys Môn a gogledd Cymru yn deall gwerth niwclear ar gyfer swyddi, twf, sicrwydd ynni a chymunedau ffyniannus.
Er bod Ynys Môn ar hyn o bryd yn ddeniadol ar gyfer buddsoddiad hirdymor, byddai porthladd rhydd newydd yn gwella’r hyn sydd gan yr Ynys i’w gynnig i’n busnes ac yn atgyfnerthu ei statws fel lleoliad ar gyfer buddsoddiad pellach gan ein cwmni. Mae cynlluniau ar y gweill i Assystem agor swyddfa yng ngogledd Cymru yn 2023 gan ddod â chyfleoedd newydd i’r ardal. Fel y cyfryw, rydym yn cefnogi’r cynnig am borthladd rhydd arfaethedig ar Ynys Môn.”
Simon Barber
Rheolwr Gyfarwyddwr y DU, Assystem