Beth yw porthladd rhydd?

Mae porthladd rhydd yn ardal ddynodedig – a ddiffinnir gan y llywodraeth – sy’n ddarostyngedig i reolau economaidd arbennig. Yn benodol, mae gan borthladd rhydd reolau gwahanol o ran trethiant, yn ogystal â tholldaliadau, gyda rhai safleoedd yn caniatáu rhyddhad treth ac eithriadau tollau.

Beth yw safleoedd treth a thollau?

Safleoedd tollau: Mae ardal dollau Porthladd Rhydd, y cyfeirir ati’n aml fel ‘parth rhydd’, yn ardal ddiogel ddynodedig lle mae’r rheolau tollau arferol yn cael eu llacio. Gall busnesau awdurdodedig ddod ag eitemau i ardal dollau Porthladd Rhydd gyda llai o waith papur a heb dalu tollau, a gallant storio a phrosesu nwyddau. Os ydynt yn bodloni amodau penodol, efallai na fydd yn rhaid iddynt dalu trethi mewnforio na thollau ecséis. 

Safleoedd treth: Mae safleoedd treth ar wahân i safleoedd tollau ac yn ceisio cymell lefelau uwch o fuddsoddiad gan fusnesau. Gall busnesau yn y safleoedd treth hyn fwynhau buddion treth amrywiol, gan gynnwys gostyngiad mewn costau Yswiriant Gwladol ar gyfer staff newydd. Gall cwmnïau newydd sy’n sefydlu ar safle treth Porthladd Rhydd neu gwmnïau presennol sy’n tyfu eu gweithrediadau elwa ar ostyngiadau treth.

Sut maent yn gweithio?

Er eu bod wedi’u lleoli o fewn ffiniau’r Deyrnas Unedig, maent yn bodoli y tu allan i ‘ffin tollau’ y wlad. Mae hyn yn golygu bod nwyddau sy’n mynd i mewn ac allan o borthladdoedd rhydd wedi’u heithrio rhag trethi a delir i’r Llywodraeth fel arfer.

Cefnogir gan