Safleoedd treth a thollau Porthladd Rhydd Ynys Môn

Gweledigaeth Porthladd Rhydd Ynys Môn yw dod yn ganolbwynt ar gyfer arloesi, ynni carbon isel, a masnach ryngwladol. Mae ganddo ddull deuol:

Ar ôl cytuno ar ein Hachos Busnes Amlinellol ddechrau 2025, mae Parth Ffyniant Ynys Môn a Safle Treth Canol Ynys Môn wedi derbyn dynodiad safle treth. Disgwylir i safle Treth Gogledd Ynys Môn ddod i’r amlwg yn ddiweddarach eleni.

Bydd y gwahanol safleoedd treth yn denu gwahanol fathau o fusnesau a defnyddiau – byddant yn darparu ar gyfer arwynebeddau llawr o wahanol feintiau a mathau gan sicrhau y gellir darparu ar gyfer gwahanol anghenion a mathau busnes. 

Bydd hyn yn sicrhau y gellir gwneud y mwyaf o fanteision y Porthladd Rhydd i’r economi leol, ranbarthol a chenedlaethol.

Bydd mwy o wybodaeth ynghylch ein safle tollau ar gael maes o law. Bydd penderfynu ym mha safle treth y bydd y safle tollau wedi’i leoli ac yn lle yn union, wedi’i seilio ar ddiddordeb gan fuddsoddwyr a dichonoldeb.

Safle Treth Canol Ynys Môn

Mae M-SParc yn greiddiol i safle Treth Canol Ynys Môn gan sicrhau bod arloesedd, sgiliau a datblygiad busnes yn rhan annatod o’r Porthladd Rhydd. Mae’n cynnwys nifer o wahanol feintiau o safleoedd – gan gynnwys safleoedd yn Llangefni. Bydd hyn yn creu gofod busnes ar gyfer mwy o fusnesau cynhyrchiol, arloesol – fel y rhai sydd eisoes wedi’u lleoli yn M-SParc – ac ystod o wahanol fathau o ofod llawr i wneud yn siŵr y gellir darparu ar gyfer gwahanol anghenion a mathau busnes. M-SParc, sy’n eiddo i Brifysgol Bangor, yw’r parc gwyddoniaeth cyntaf yng Nghymru ac mae wedi’i wreiddio yn y sectorau digidol a charbon isel ar draws Gogledd Cymru. Mae eu tîm yn gweithio ar draws ystod o brosiectau gan gynnwys ynni llanw, ynni gwynt ar y môr a niwclear newydd. Fel rhan o’r Porthladd Rhydd, bydd y safle’n cynnig cynigion eiddo o safon uchel (gan gynnwys swyddogaethau ymchwil a datblygu), lle i gael mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer busnesau uwch-dechnoleg a bydd yn allweddol wrth integreiddio’r Porthladd Rhydd ehangach â gweithgareddau arloesi.

Mae Safle Treth Gogledd Ynys Môn – disgwylir iddo gael ei gymeradwyo yn hwyrach – yn cynnwys Rhosgoch, hen ddepo Shell Oil, a safle Octel, yr hen ffatri gemegol bromin. Mae’r ddau safle wedi bod yn wag ers degawdau ac, er bod rhywfaint o ddiddordeb gan fuddsoddwyr yn flaenorol, roedd cost y gwaith gofynnol yn rhwystr amlwg, ac nid yw’r safleoedd erioed wedi eu datblygu. Gall cefnogaeth gan y Porthladd Rhydd wneud y safle’n hyfyw i fuddsoddwyr a dod â datblygiad a chreu swyddi yng ngogledd yr Ynys. Mae penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i brynu safle Wylfa yn 2024 yn arwydd pellach o ymrwymiad clir i ddod â datblygiad niwclear newydd i Ynys Môn. Bydd ein hagosrwydd at Wylfa yn creu cyfleoedd pellach sy’n gysylltiedig ag unrhyw brosiectau niwclear yn y dyfodol.

Mae Parth Ffyniant Ynys Môn (APZ) yn cynnwys hen safle Alwminiwm Môn – a ailenwyd bellach yn Parc Ffyniant – a Pharc Cybi. Fe gynhaliwyd ymgynghoriad gan Stena Line ar Parc Ffyniant, gyda’r cais am y safle yn cael ei gyflwyno yn gynnar yn 2025. 

Ym mis Gorffennaf 2025 cafwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar y Parc Ffyniant i ddatblygu campws technoleg blaengar, carbon isel. Yn ymestyn dros 220 erw, bydd y safle yn cynnwys dros 220,000 metr sgwâr o ganolfan ddata, swyddfeydd a safle diwydiannol – wedi’i ddylunio i annog arloesedd a thwf. Bydd system storio ynni batri bwrpasol hefyd wedi’i rhoi yn ei lle, gan gymryd mantais lawn ar gysylltiad grid presennol y safle.

Ar eu gorau, rhagwelir y bydd y cynigion yn cynhyrchu twf o hyd at £578 miliwn yn yr economi leol bob blwyddyn, cyfwerth â thraean economi gyfredol Ynys Môn, ac yn creu oddeutu 1,200 o swyddi. Byddai’r cyfnod adeiladu yn creu 890 o swyddi ychwanegol ar ben y cyfleoedd cadwyn gyflenwi.

Cefnogir gan