Achos Busnes Llawn Porthladd Rhydd Ynys Môn wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU

Awst 2025

Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn, partneriaeth rhwng Stena Line a Chyngor Sir Ynys Môn (CSYM), yn falch o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU bellach wedi cymeradwyo ei Achos Busnes Llawn. 

Mae hyn yn dilyn cymeradwyo Achos Busnes Amlinellol y Porthladd Rhydd yn gynharach eleni, a neilltuodd ddau brif safle treth ar draws yr ynys. Mae busnesau newydd a leolir o fewn ‘Parth Ffyniant Ynys Môn’ a ‘Safleoedd Treth Canol Ynys Môn’ yn elwa o ryddhad treth arbennig, gan ddenu buddsoddiad ac annog twf economaidd ledled Gogledd Cymru.

Gyda’r ddau achos busnes llawn wedi’u cymeradwyo, mae pob cymeradwyaeth ofynnol bellach yn eu lle, gan alluogi’r Porthladd Rhydd i drosglwyddo i’w gam cyflawni. Cyn bo hir, bydd cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn yn datgloi £25 miliwn o gyfalaf sbarduno’r Llywodraeth, a fydd yn galluogi sefydlu’r Porthladd Rhydd fel endid busnes. Disgwylir cymeradwyo Safle Treth Gogledd Ynys Môn yn ddiweddarach eleni.

Bydd Porthladd Rhydd Ynys Môn yn cyflawni ar amcanion cyffredin Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o gylch y Cynllun Porthladd Rhydd ehangach, gan gynnwys sicrhau bod y Porthladd Rhydd yn gweithredu fel hwb ar gyfer masnach fyd-eang, arloesi a buddsoddi, cefnogi doniau lleol a manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth newydd, yn benodol o fewn y sector ynni carbon isel.

Yn fuan, mi fydd prif safle treth Porthladd Rhydd Ynys Môn, ‘Parth Ffyniant Ynys Môn’, yn derbyn dyfarniad cynllunio ar gyfer parc technoleg newydd arfaethedig yn y Parc Ffyniant, sef cyn-safle Alwminiwm Môn. Ar eu gorau, rhagwelir y bydd y cynigion yn cynhyrchu twf o hyd at £578 miliwn yn yr economi leol bob blwyddyn, cyfwerth â thraean economi gyfredol Ynys Môn, ac yn creu oddeutu 1,200 o swyddi.

Dywedodd Ian Davies, Pennaeth Awdurdodau Porthladdoedd y DU yn Stena Line:

“Rydym yn hynod falch bod Porthladd Rhydd Ynys Môn bellach yn gwbl weithredol, yn dilyn cymeradwyo ein hachos busnes llawn. Y garreg filltir hon yw penllanw’r holl waith a wnaed hyd yma gan Stena Line a Chyngor Sir Ynys Môn. Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am eu cefnogaeth barhaus wrth ddatblygu’r Porthladd Rhydd a’u hymrwymiad i wireddu ei weledigaeth.

Awn ati nawr i gyflawni ar addewid y Porthladd Rhydd, sef denu buddsoddiad, diogelu’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, creu miloedd o swyddi newydd a hybu twf economaidd ledled Gogledd Cymru.”

Ychwanegodd Dylan J. Williams, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn:

“Mae cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn yn gam sylweddol arall ymlaen tuag at gyflawni Porthladd Rhydd Ynys Môn a rhoi hwb i’r economi leol. Ynghyd â Stena Line, rydym wedi buddsoddi cryn dipyn o amser ac ymdrech yn y cyfle trawsnewidiol hwn. Mawr obeithiwn fod cyfnod cyffrous ar y gorwel wrth i’n partneriaeth greu sylfaen gadarn i gyflawni buddsoddiad sylweddol a buddion economaidd hirdymor i’r ynys, i’w chymunedau ac i Ogledd Cymru.”

“Byddai datgloi £25 miliwn o gyllid gan y Llywodraeth yn ein galluogi ni i wneud cynnydd pellach o ran datblygu ein tri safle treth – gan sicrhau bod Porthladd Rhydd Ynys Môn yn dod â chyfleoedd sylweddol i gadwyni cyflenwi, swyddi a buddsoddiad newydd.”

Dywedodd Alex Norris AS, Gweinidog Twf Lleol y DU:

“Tyfu’r economi yw prif flaenoriaeth ein Cynllun ar gyfer Newid ac mae gan Borthladdoedd Rhydd ran hanfodol i’w chwarae er mwyn gwireddu hynny.

“Dyna pam ei bod yn wych bod Porthladd Rhydd Ynys Môn wedi cymryd y cam enfawr hwn ymlaen tuag at ddenu buddsoddiad, creu swyddi newydd ac ysgogi cyfleoedd yn yr ardal.

“Mae hyn yn dangos yn glir yr hyn y mae modd ei gyflawni pan mae llywodraethau canolog a datganoledig yn cydweithio i gyflawni ar gyfer cymunedau.”

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:

“Mae gan Borthladd Rhydd Ynys Môn y gallu i roi hwb sylweddol i dwf economaidd a chreu swyddi o ansawdd yng Ngogledd Cymru; ac mae wedi cymryd cam arwyddocaol arall at geisio gwerth £25 miliwn o gyfalaf sbarduno i fanteisio ar y cyfle trawsnewidiol hwn.

 “Rydym yn parhau i weithio law yn llaw â Llywodraeth y DU i annog ffyniant economaidd ar draws y rhanbarth.”

Supported by