Porthladd Rhydd Ynys Môn yn croesawu buddsoddiad arwyddocaol yn Ynys Môn

Tachwedd 2025

Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU mai hen safle niwclear yr Wylfa ar Ynys Môn fydd cartref Adweithyddion Modiwlar Bach newydd Rolls Royce, a hefyd croesewir y newyddion bod Ynys Môn wedi’i dynodi’n Barth Twf AI newydd yng Ngogledd Cymru.

Bydd y Parth Twf AI yn adeiladu ar amcanion Porthladd Rhydd Ynys Môn i ddarparu canolfan ar gyfer buddsoddi, arloesi a masnach fyd-eang – gan gryfhau’r economi leol, creu swyddi o’r radd flaenaf a sicrhau y bydd Cymru a’r DU ar flaen y gad yn y ras dechnoleg fyd-eang.

Bydd y penderfyniad i adeiladu adweithyddion modiwlar bach ar safle’r Wylfa yn creu 3,050 o swyddi adeiladu newydd pan fydd y gwaith ar ei anterth, yn ychwanegol at y swyddi a gaiff eu creu gan y Porthladd Rhydd. Hefyd, bydd yn darparu ynni glân hollbwysig a fydd yn angenrheidiol i redeg y technolegau a gaiff eu darparu yn y Parth Twf AI.

Medd Dylan J. Williams, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn:

“Mae’r cyhoeddiadau hyn ar y cyd yn gwbl drawsnewidiol i Ynys Môn. Byddant yn cyflymu buddsoddiad mawr ac yn helpu i greu swyddi hollbwysig a fydd yn ysgogi twf ac yn gwireddu manteision economaidd-gymdeithasol arwyddocaol i Ynys Môn a ledled Gogledd Cymru.

“Credaf yn gryf y gall prosiectau’r Wylfa a’r Porthladd Rhydd gynnig sylfaen ar gyfer creu dyfodol gwell i’n pobl ifanc, ac fel cyngor rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau y bydd y ddau brosiect yn cynyddu manteision i’r ardal leol.”

“Mae prosiect Porthladd Rhydd Ynys Môn wastad wedi ymrwymo i greu rhagor o swyddi ac esgor ar fanteision economaidd parhaol i bawb – gan gynnig y sicrwydd hirdymor sy’n angenrheidiol i fuddsoddi mewn uwchsgilio’r gweithlu lleol, creu cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi a chefnogi cymunedau cynaliadwy. Trwy wneud hyn, byddwn yn mynd ymhellach fyth i gyfoethogi a diogelu’r Gymraeg a diwylliant a hunaniaeth falch Ynys Môn.”

Ychwanegodd Ian Hampton, Cyfarwyddwr Gweithredol Stena Line:

“Mae’r cyhoeddiadau a wnaed heddiw yn arwydd o’r bwriad i sicrhau y bydd Ynys Môn wrth galon a chraidd ynni glân, technoleg ac arloesi ar lefel fyd-eang. Dyma garreg filltir hollbwysig yn siwrnai’r Porthladd Rhydd, ac mae Stena Line a Chyngor Sir Ynys Môn yn gweithio’n agos gyda’i gilydd i roi hwb i dwf economaidd ledled Gogledd Cymru. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am eu hymrwymiad parhaus i gefnogi’r Porthladd Rhydd a’i weledigaeth ar gyfer y dyfodol.”

Cyn bo hir, bydd Porthladd Rhydd Ynys Môn yn cytuno ar ei Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan bennu mai Cyngor Sir Ynys Môn fydd corff atebol y Porthladd Rhydd, yn dilyn cymeradwyo Achos Busnes Llawn y Porthladd Rhydd dros yr haf. Ar ôl i’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gael ei lofnodi, bydd y Porthladd Rhydd ar waith yn llwyr a bydd yn cael £25 miliwn o gyfalaf sbarduno gan y Llywodraeth, gan gyfrannu ymhellach at ddatblygu’r Porthladd Rhydd.

Supported by