Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn, partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Stena Line, wedi cyhoeddi mai Safle Treth Gogledd Ynys Môn yw’r safle treth diweddaraf i dderbyn dynodiad safle treth ffurfiol ar yr Ynys.
Mae Safle Treth Gogledd Ynys Môn yn cynnwys Rhosgoch, yr hen ddepo Olew Shell, a’r safle Octel, hen ffatri gemegol bromin. Gyda dynodiad safle treth bellach wedi’i sicrhau, bydd y safleoedd yn barod ar gyfer buddsoddiad Porthladd Rhydd, gyda busnesau newydd yn gallu elwa o fentrau treth arbennig y Porthladd Rhydd, gan gynorthwyo i arwain twf a chreu swyddi yng ngogledd yr Ynys.
Mae hyn yn rhan o genhadaeth ehangach Porthladd Rhydd Ynys Môn i ddiogelu’r diwylliant a’r iaith Gymraeg, i greu miloedd o swyddi medrus o ansawdd uchel, gan osod Gogledd Cymru ar flaen y sectorau egni a thechnoleg fyd-eang.
Dywedodd Dylan J. Williams, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn:
“Mae dynodiad ffurfiol Safle Treth Gogledd Ynys Môn yn nodi carreg filltir sylweddol ar gyfer Porthladd Rhydd Ynys Môn ac i economi Gogledd Cymru yn ehangach, gan alluogi i weledigaeth y Porthladd Rhydd gael ei chyflwyno ar hyd a lled yr Ynys.
Yn dilyn cyhoeddiad yr wythnos diwethaf bod Rolls-Royce am ddatblygu Adweithyddion Modiwlaidd Bach (SMRau) ar hen safle niwclear Wylfa, ynghyd â chreu Parth Twf Deallusrwydd Artiffisial newydd yng Ngogledd Cymru, mae Ynys Môn bellach yn barod i fod yn hwb byd-eang ar gyfer ynni glân, arloesedd technoleg uwch a buddsoddiad.
Rydym yn ddiolchgar i Lywodraethau Cymru a’r DU am eu cefnogaeth barhaus a’u cydnabyddiaeth o’r buddion trawsnewidiol a geir o’r Porthladd Rhydd.”
Ychwanegodd Ian Hampton, Cyfarwyddwr Gweithredol Stena Line:
“Mae’r dynodiad heddiw o Safle Treth Gogledd Ynys Môn yn arwydd clir o hyder ym mhotensial economaidd Ynys Môn a Gogledd Cymru.
Rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddod â’n cynlluniau ar gyfer y Porthladd Rhydd ymlaen, gan gynorthwyo i ddatgloi ffyniant hirdymor a chyfleoedd i Ynys Môn a Gogledd Cymru.”
Mae dau o safleoedd treth Porthladd Rhydd Ynys Môn, Safle Treth Canol Ynys Môn a Pharth Ffyniant Ynys Môn, wedi derbyn dynodiad safle treth ar ôl cytuno ar Achos Busnes Amlinellol y Porthladd Rhydd ddechrau 2025. Bydd y Porthladd Rhydd, yn fuan, yn cytuno ar ei Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) gyda Llywodraethau Cymru a’r DU. Ar ôl ei lofnodi, bydd y Porthladd Rhydd yn gwbl weithredol ac yn gallu cael mynediad at hyd at £25 miliwn o gyfalaf sbarduno’r Llywodraeth, gan alluogi ei ddatblygu ymhellach a chefnogi’i ffordd o weithio.
Contact us