Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraethau Cymru a’r DU am Grantiau Cyflymydd Safle, gyda chyllid wedi’i gadarnhau i gefnogi prosiectau yn y Porthladd Rhydd.
Cyhoeddodd Llywodraethau Cymru a’r DU gyllid o £162,000 i Borthladd Rhydd Ynys Môn ar gyfer:
Mae’r Grantiau Cyflymydd Safle yn darparu cyllid tymor byr wedi’i dargedu i safleoedd o fewn Parthau Strategaeth Diwydiannol, gan gynnwys Porthladd Rhydd Ynys Môn, gan helpu i fynd i’r afael â rhwystrau ymarferol a thechnegol sy’n oedi datblygiad. Bwriad y grantiau yw cyflymu’r cynnydd a darparu’r adnoddau sydd eu hangen ar bartneriaid lleol i symud safleoedd sydd â photensial uchel i’r cam cyflawni yn gynt.
Mae lleihau rhwystrau i fuddsoddiad ar safleoedd o fewn y Porthladd Rhydd yn flaenoriaeth wrth i ni drawsnewid i’n cyfnod gweithredol.
Croesawodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn a’r deilydd portffolio Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Gary Pritchard, y cyllid i gynnal yr asesiadau allweddol yma.
Dywedodd y Cyng Pritchard: “Hoffwn ddiolch i’n tîm Datblygu Economaidd am lunio’r ceisiadau cyllid llwyddiannus yma. Bydd yr arian a gafwyd gan Lywodraeth y DU nawr yn caniatáu inni gynnal yr asesiadau priffyrdd a chapasiti grid dros yr wythnosau nesaf. Mae hwn yn gam pwysig arall ymlaen ar daith Porthladd Rhydd Ynys Môn.”
Gellir dod o hyd i gyhoeddiad Llywodraeth y Du yn llawn yma.
Contact us