Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi cael ei lofnodi rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Chyngor Sir Ynys Môn, a fydd yn ffurfioli’r modd y caiff Porthladd Rhydd Ynys Môn ei lywodraethu a’i gyflawni.
Mae’r cytundeb yn nodi dechrau cyfnod gweithredol y Porthladd Rhydd, a arweinir gan ei bartneriaid hollbwysig – sef Cyngor Sir Ynys Môn a Stena Line. Bydd hyn yn rhyddhau’r gyfran gyntaf o £25 miliwn o gyllid cyfalaf sbarduno gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi saith prosiect sy’n anelu at wella seilwaith, denu buddsoddiad preifat a chreu swyddi newydd ledled Ynys Môn a Gogledd Cymru.
Bydd y cyllid yn helpu i ariannu saith prosiect, yn cynnwys gwelliannau i fynedfeydd ffyrdd, seilwaith ynni, gwaith adfer safleoedd a chyfleusterau newydd a gwell ar gampws Parc Gwyddoniaeth Menai. Gyda’i gilydd, byddant yn paratoi safleoedd treth y porthladd rhydd ar gyfer buddsoddiad gan y sector preifat.
Mae’r garreg filltir hon yn adeiladu ar gynnydd diweddar yn hanes Porthladd Rhydd Ynys Môn, yn cynnwys cymeradwyaeth Seneddol ar gyfer ei dri safle treth dynodedig ac achos busnes llawn. Mae’r cyhoeddiad hwn ynglŷn â chyllid yn dilyn newyddion ynglŷn â chymeradwyo adweithydd niwclear newydd ar safle Wylfa a dynodi Ardal Twf AI Gogledd Cymru, y mae’r Porthladd Rhydd yn gorwedd o fewn ei ffiniau.
Medd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:
“Bydd y £25 miliwn a gyhoeddwyd heddiw yn gosod y seilwaith ar Ynys Môn er mwyn sicrhau y gall busnesau wneud yn fawr o’r cyfleoedd a gaiff eu creu gan Borthladd Rhydd Ynys Môn a datblygiad newydd Wylfa ac Ardal Twf AI Gogledd Cymru.”
Yn ôl Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Mae newyddion heddiw yn foment arwyddocaol o ran cyflawni Porthladd Rhydd Ynys Môn a fydd yn hanfodol ar gyfer rhoi hwb i dwf economaidd. Rhagwelir y bydd 5,000 o swyddi yn cael eu creu erbyn 2030.
“Mae hyn yn dilyn cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y DU am niwclear newydd ar gyfer Wylfa ac Ardal Twf AI Gogledd Cymru, a fydd gyda’i gilydd yn drawsnewidiol i bobl gogledd Cymru, ac yn darparu cyfleoedd am genedlaethau i ddod.”
Medd Gary Pritchard, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn:
“Mae Cyngor Ynys Môn yn falch o lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth y Porthladd Rhydd gan ei fod yn garreg filltir bwysig o ran darparu cyfleoedd economaidd newydd i’r ynys. Mae’r cytundeb yn cadarnhau ymrwymiad cyffredin gyda’r ddwy lywodraeth a Stena Line i sefydlu Porthladd Rhydd a all ddenu buddsoddiad, cefnogi arloesedd, a chreu swyddi medrus i gymunedau lleol.
“Mae sicrhau cyfalaf sbarduno yn arbennig o bwysig, gan ei fod yn golygu gallu dechrau ar waith cynnar hanfodol, ac yn dangos hyder ym mhotensial strategol Ynys Môn. Gyda’r sylfaen hon yn ei lle, gall y Cyngor gyda Stena Line a phartneriaid eraill gyflymu cynlluniau sy’n cryfhau rôl yr ynys ym meysydd ynni, gweithgynhyrchu a masnach, gan helpu i yrru ffyniant hirdymor ar draws Ynys Môn a Gogledd Cymru.”
Dyma a ddywedodd Ian Hampton, Cadeirydd Gweithredol Stena Line:
“Rydym yn croesawu cymeradwyo memorandwm cyd-ddealltwriaeth Porthladd Rhydd Ynys Môn gyda llywodraethau Cymru a’r DU. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi dechrau cam gweithredol Porthladd Rhydd Ynys Môn, yn dilyn y gwaith a wnaed hyd yma i sicrhau statws y Porthladd Rhydd, cwblhau ein hachosion busnes, a pharatoi ein safleoedd treth ar gyfer buddsoddiad.
“Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus a byddwn yn parhau i weithio gyda’r ddwy lywodraeth a’r holl bartneriaid Porthladd Rhydd i gyflawni ein gweledigaeth o ddarparu swyddi a thwf economaidd i Ynys Môn a Gogledd Cymru, tra’n diogelu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg.”
Contact us