Heddiw, cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford becyn cyllid gwerth £40m gan Lywodraeth Cymru i adnewyddu Morglawdd Caergybi a helpu i ddiogelu dyfodol hirdymor Porthladd Caergybi.
Mae’r morglawdd Fictoraidd 2.4km o hyd yn darparu amddiffyniad hanfodol i Borthladd Caergybi. Hebddo, byddai’r tonnau’n rhy arw i alluogi’r llongau fferi i hwylio a gallai hynny arwain at golli’r gwasanaeth, ac at gau’r Porthladd yn y pen draw. Yn ogystal, mae’r morglawdd yn amddiffyn sawl busnes ac eiddo rhag llifogydd.
Mae sylfaen y morglawdd cerrig, a adeiladwyd oddeutu 150 o flynyddoedd yn ôl, wedi’i osod ar domen rwbel ar wely’r môr. Ers iddo gael ei adeiladu, mae wedi cael ei erydu’n raddol gan Fôr Iwerddon. Mae sefydlogrwydd y morglawdd bellach dan fygythiad, gyda thebygrwydd o’r strwythur yn torri yn ystod tywydd stormus yn cynyddu.
Caergybi yw ail borthladd prysuraf y DU ar gyfer traffig sy’n gyrru i mewn ac allan o longau er mwyn cludo nwyddau i borthladdoedd Môr Iwerddon. Mae’n gyswllt hollbwysig rhwng y DU, Gweriniaeth Iwerddon a’r UE, ac yn gyflogwr allweddol ar Ynys Môn, gan gefnogi oddeutu 700 o swyddi lleol.
Bydd y pecyn gwerth £40 miliwn, sy’n cynnwys benthyciad o £20 miliwn a grant o £20 miliwn, yn helpu i dalu am y gost o adnewyddu’r Morglawdd, sydd oddeutu £110m.
Pennaeth Awdurdodau Porthladdoedd y DU yn Stena Line Ian Davis, Tánaiste (Dirprwy Brif Weinidog Iwerddon) Micheál Martin a Phrif Weinidog Cymru Mark Drakeford yn ymweld â morglawdd Caergybi ddydd Gwener diwethaf (Hydref 20fed)
Morglawdd Caergybi
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Mae Porthladd Caergybi yn ased pwysig i Ogledd Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn o £40 miliwn yn y morglawdd yn helpu i sicrhau dyfodol y porthladd ac yn diogelu swyddi.
“Mae’r porthladd o bwys strategol hanfodol. Mae’n chwarae rhan hollbwysig wrth gyflawni ffyniant economaidd i’r rhanbarth ac mae hefyd yn rhan allweddol o’n seilwaith trafnidiaeth.
“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn ddatblygiad cadarnhaol i Ynys Môn ac yn dangos ymrwymiad cadarn Llywodraeth Cymru i’r ynys.”
Dywedodd Ian Davies, Pennaeth Awdurdodau Porthladdoedd y DU yn Stena Line Ports Ltd, sy’n gweithredu porthladd Caergybi:
“Rydym yn croesawu’r cymorth o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, sy’n ychwanegol at y swm a addawyd gan Lywodraeth y DU yn gynharach eleni. Mae’r cymorth hwn yn cyfrannu’n sylweddol at y buddsoddiad arfaethedig o £100m+ yn y morglawdd, a fydd yn sicrhau adnewyddiad hirdymor a chadarn o’r darn hanfodol hwn o seilwaith.
“Fel ail borthladd prysuraf y DU lle gall pobl yrru i mewn ac allan, mae Porthladd Caergybi yn gyswllt trafnidiaeth allweddol rhwng y DU, Iwerddon a gweddill Ewrop gan symud miliynau o dunelli o nwyddau a chludo miloedd o deithwyr bob blwyddyn.
“Wrth edrych i ddyfodol y porthladd ac Ynys Môn yn ehangach, rydym yn ceisio adeiladu gyda’n partneriaid yng Nghyngor Sir Ynys Môn, ar gyfer cyflwyno statws Porthladd Rhydd Ynys Môn i hybu diwydiant a buddsoddiad yn y rhanbarth, a fydd yn cefnogi’r economi leol ac economi Gogledd Cymru. Mae adnewyddu’r morglawdd a diogelu’r porthladd a’r cyffiniau yn hanfodol i’r cynllun hirdymor hwnnw ac rydym yn ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cydnabod ei bwysigrwydd.”
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Drwy ddatrys y broblem gyda’r morglawdd, rwy’n mawr obeithio ein bod yn rhoi’r hyder i’r sector preifat fuddsoddi yn y porthladd a’r ardal gyfagos, a fydd yn cyflwyno cyfleoedd newydd cyffrous.
“Gwelodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yr uchelgais a’r addewid yng nghais Porthladd Rhydd Ynys Môn a chytunwyd iddo fynd yn ei flaen i’r cam nesaf. Rwy’n edrych ymlaen at weld y porthladd yn amlinellu yn ei achos busnes sut bydd y Porthladd Rhydd yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i ddatblygu diwydiannau gwyrdd newydd y dyfodol.
“Rwy’n disgwyl y bydd y Porthladd Rhydd yn cefnogi agenda Sero Net uchelgeisiol Llywodraeth Cymru, yn ogystal â helpu i greu miloedd o swyddi newydd ar Ynys Môn ac yng Ngogledd Cymru.”