Ar Ddydd Mawrth 31 Hydref, derbyniodd Rob Hardy Wobr Person Busnes y Flwyddyn yn y DU ac Iwerddon 2023 gan Sefydliad Busnes Iwerddon ar fwrdd llong y Stena Adventurer. Cafodd y wobr ei rhoi i Rob Hardy gan Gapten J Hambley Jones, Uwch Feistr y Stena Adventurer, ar fwrdd y llong.
Derbyniodd Hardy y wobr, sylfaenydd EORI Group – menter sydd wedi torri tir newydd o fewn y broses dollau, i gydnabod ei ragoriaeth yn ei fusnes, wrth arddangos gwir werthfawrogiad i’w wreiddiau Gwyddelig. Roedd penderfyniad Sefydliad Busnes Iwerddon wedi’i seilio ar feini prawf eang, gan gynnwys arweiniad a gweledigaeth, cyflawniadau busnes a threftadaeth hynafol ac roedd Hardy yn rhagori ym mhob un ohonynt.
Dywedodd cynrychiolydd o Sefydliad Busnes Iwerddon: “Mae’n bleser mawr i ni ddymuno llongyfarchiadau gwresog i Robert Hardy, sylfaenydd EORI Group, ar gipio’r wobr Person Busnes y flwyddyn yn y DU ac Iwerddon 2023. Nid yn unig mae’r wobr hon yn cydnabod llwyddiannau arbennig Robert yn y byd busnes ond mae’r wobr hefyd yn talu teyrnged i’w gysylltiad dwfn â’i wreiddiau Gwyddelig. Fel dyn busnes o’r DU sydd â chefndir Gwyddelig, mae llwyddiannau Robert Hardy yn enghraifft o bŵer pontio diwylliannau a meithrin perthnasau busnes cryf rhwng y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.”
Dywedodd Rob Hardy: “Mae gan Iwerddon le pwysig yn fy nghalon i ac mae’r gallu i gefnogi masnach rhwng y DU ac Iwerddon yn gyfle delfrydol i weithio gyda busnesau Gwyddelig er mwyn hwyluso masnach yn y ddau gyfeiriad. Mae’r Gwyddelod yn enwog am eu haelioni a’u caredigrwydd, ac mae hynny’n wir o fewn busnes hefyd. Mae hi wir yn bleser medru helpu busnesau sydd wedi’u lleoli’r naill ochr i Fôr Yr Iwerddon, i greu cyfleoedd newydd ac i feithrin perthnasau ar yr un pryd.”
Derbyniodd Hardy Wobr Person Busnes y Flwyddyn yn y DU ac Iwerddon 2023 gan Gapten J Hambley Jones ar fwrdd llong y Stena Adventurer yn hwylio o Gaergybi i Ddulyn, Ddydd Mawrth 31 Hydref.