Dewch i ddysgu mwy am Borthladd Rhydd Ynys Môn yn ein digwyddiad gwybodaeth gymunedol

Tachwedd 2023

Mae Llywodraeth Cymru yn ogystal â Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo cais Ynys Môn i fod yn un o Borthladdoedd Rhydd cyntaf Cymru – cyfle gwych i greu swyddi newydd, aml-sgil o fewn ein cymunedau.

Bydd Porthladd Rhydd Ynys Môn, sy’n bartneriaeth rymus rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Stena Line, yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer masnach fyd-eang, arloesi a buddsoddiad, wrth gefnogi talentau lleol a chreu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth newydd.

Os hoffech ddysgu mwy am Borthladd Rhydd Ynys Môn, anogwn i chi fynychu ein digwyddiad ‘galw draw’ sy’n cymryd lle yng nghanol Caergybi.

Bydd y digwyddiad yn gyfle i ddysgu mwy ynghylch am y Porthladd Rhydd ac i egluro’r cynnydd yn ein cynlluniau. Bydd hefyd yn gyfle i gyfarfod â thîm y Porthladd Rhydd a gofyn unrhyw gwestiwn ynghylch beth y gall y prosiect ei gynnig a’i gyflawni ar Ynys Môn. 

Cynhelir y digwyddiad yn Neuadd Marchnad Caergybi, Stryd Stanley, ar y 1af o Ragfyr 2023, rhwng 1yp – 5yp, gan alluogi preswylwyr i fynychu ar amser sy’n gyfleus iddynt hwy.

Mae manylion digwyddiad cymunedol Porthladd Rhydd Ynys Môn fel a ganlyn:

Dyddiad: Dydd Gwener 1af o Ragfyr 2023
Amser: 1yp – 5yp
Lleoliad: Neuadd Marchnad Caergybi, Stryd Stanley, Caergybi, LL65 1NG

Dewch i ddarganfod mwy am Borthladd Rhydd Ynys Môn yn ein digwyddiad sydd ar y gweill.

Cefnogir gan