Cyflwyno achos busnes amlinellol ar gyfer Porthladd Rhydd Ynys Môn

Rhagfyr 2023

Heddiw, cyhoeddodd Stena Line a Chyngor Sir Ynys Môn eu bod wedi cyflwyno Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Porthladd Rhydd Ynys Môn, sef prosiect trawsnewidiol a fydd yn ysgogi twf economaidd ac yn creu llawer o swyddi ledled Ynys Môn a Gogledd Cymru.

Mae cyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol yn dilyn cais llwyddiannus Ynys Môn am statws porthladd rhydd – yn gynharach eleni, ymwelodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru a Rishi Sunak, Prif Weinidog y DU â Phorthladd Caergybi i gyhoeddi y byddai Ynys Môn yn un o’r porthladdoedd rhydd cyntaf yng Nghymru.

Mae’r Achos Busnes Amlinellol, a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn cynnwys llawer o fanylion am y modd y mae Porthladd Rhydd Ynys Môn yn bwriadu gweithredu, a hefyd diffinnir y safleoedd treth a thollau penodol a leolir oddi mewn i ffiniau’r Porthladd Rhydd.

Dros y misoedd diwethaf, mae timau pwrpasol yng Nghyngor Sir Ynys Môn a Stena Line wedi gweithio dan gyfarwyddyd a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i lunio Achos Busnes Amlinellol Porthladd Rhydd Ynys Môn, gan fynd ati’n fanwl i sicrhau y bydd y cynigion yn gwasanaethu cymunedau Gogledd Cymru yn y ffordd orau ac y byddant yn creu amgylchedd gweithredu cystadleuol ar gyfer y dyfodol.

Mae cyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i’r ddwy lywodraeth yn nodi’r cam nesaf yn natblygiad y prosiect. Yn awr, bydd y ddwy lywodraeth yn dechrau adolygu’r Achos Busnes Amlinellol, gan asesu’r cynigion cyfredol yn fanwl. Yna, bydd Stena Line a Chyngor Sir Ynys Môn yn cyflwyno’u Hachos Busnes Llawn. Bydd cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn yn rhyddhau £26m o arian gan y Llywodraeth, a bydd yr arian hwnnw’n cael ei reoli gan Gyngor Sir Ynys Môn yn ei rôl fel corff atebol y prosiect.

Mae’r cynigion yn yr Achos Busnes Amlinellol yn adeiladu ar ddwy genhadaeth graidd Porthladd Rhydd Ynys Môn, sef:

  • Cynyddu’r fasnach trwy Borthladd Caergybi (y porthladd ‘gyrru i mewn ac allan’ mwyaf ond un ym Mhrydain) ac adfywio “Pont Dir Prydain Fawr” – gan gysylltu ynys Iwerddon â thir mawr Ewrop; a
  • Denu buddsoddiad rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang i safleoedd treth a thollau hollbwysig y Porthladd Rhydd, yn enwedig o du’r sector ynni carbon isel, gan gyd-fynd â’r Rhaglen Ynys Ynni sydd eisoes ar waith.


Cyflwynir Achos Busnes Amlinellol Porthladd Rhydd Ynys Môn rai wythnosau’n unig ar ôl i’r Canghellor Jeremy Hunt gyhoeddi yn Natganiad yr Hydref y bydd trefniadau rhyddhad treth porthladdoedd rhydd yn cael eu hymestyn yn Lloegr. Mae Llywodraeth y DU wedi addo gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i gyflwyno estyniadau tebyg ar gyfer porthladdoedd rhydd Cymru a’r Alban, gan ategu gallu Ynys Môn i ddenu cyfleoedd buddsoddi newydd a hybu cystadleurwydd Gogledd Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.

Mae’r datblygiadau a welwyd yr wythnos hon yn gam arall tuag at ddyfodol mwy disglair i Ynys Môn. Y mis diwethaf, cyflwynodd Stena Line hysbysiad i ddymchwel yr adfeilion a leolir ar un o brif safleoedd y Porthladd Rhydd – y Parc Ffyniant – a bydd hyn yn paratoi’r safle ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol.

Medd Ian Davies, Pennaeth Awdurdodau Porthladdoedd y DU yn Stena Line: “Mae cyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol yn garreg filltir bwysig yn hanes prosiect Porthladd Rhydd Ynys Môn. Rydw i’n eithriadol o falch o’r gwaith a wnaed gan Stena Line a chydweithwyr yng Nghyngor Sir Ynys Môn dros y misoedd diwethaf – maent wedi gweithio’n gyflym i sicrhau bod modd cyflwyno ein Hachos Busnes Amlinellol yn ddi-oed ac maent wedi paratoi’r ffordd ar gyfer Porthladd Rhydd llwyddiannus a fydd yn denu ton newydd o fuddsoddiadau i Ynys Môn. Edrychaf ymlaen at gael adborth gan y llywodraeth ynglŷn â’n cynigion ac at weithio’n agos gyda’n partneriaid cyflawni lleol er mwyn sicrhau y bydd y Porthladd Rhydd yn dwyn ffrwyth.”

Yn ôl Dylan J. Williams, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn: “Mae ein partneriaeth gyda Stena Line wedi buddsoddi llawer o amser ac ymdrech yn y prosiect hollbwysig hwn. Rydw i’n falch bod ein cydgyflwyniad yn nwylo Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU erbyn hyn. Er ein bod wedi gwneud cynnydd da yn barod, mae gennym lawer o waith i’w wneud o hyd, ac edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda rhanddeiliaid a chymunedau lleol wrth inni barhau i adeiladu ein cynlluniau. O’r cychwyn cyntaf, rydym wedi datgan yn glir bod yn rhaid i’r prosiect hwn, uwchlaw unrhyw beth arall, weithio i bobl Ynys Môn – gan esgor ar gyfleoedd i’r trigolion a rhoi hwb i ffyniant Gogledd Cymru. Rydw i’n falch o’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn, rydw i’n ddiolchgar am y cymorth gwleidyddol cryf a gafwyd gan aelodau etholedig y Cyngor ac rydw i’n edrych ymlaen at gyflawni Porthladd Rhydd Ynys Môn.”

Cefnogir gan