Pleser i Borthladd Rhydd Ynys Môn yw cyhoeddi’r cam nesaf cyffrous yn natblygiad y Parc Ffyniant.
Ar ôl llwyddo i glirio’r adeiladau a oedd ar y safle, yn awr byddwn yn troi ein golygon at gael gwared â’r simnai’n ddiogel. Ar hyn o bryd, rydym yn y broses o gynnal ymgynghoriad terfynol gyda’r gwasanaethau brys a’r awdurdodau iechyd a diogelwch, a chael cymeradwyaeth ganddynt.
Gan fod yr ymgynghoriadau hyn yn dal i fynd rhagddynt a chan ein bod yn aros am y gymeradwyaeth derfynol, ni ellir rhannu union ddyddiad ac amser y gwaith ar hyn o bryd. Pan fyddwn wedi cael y gymeradwyaeth i fodloni’r safonau gofynnol, ein bwriad yw rhyddhau rhagor o wybodaeth maes o law a byddwn yn argymell man ffafriol lle gall trigolion yr ardal a phartïon sydd â diddordeb wylio’r gwaith, os dymunant wneud hynny. Yn y cyfamser, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyrff eraill i sicrhau y bydd y gwaith clirio’n cael ei wneud yn unol â’r rhagofalon diogelwch llymaf – gan helpu i sicrhau diogelwch y safle a llesiant y gymuned leol. Bydd y gwaith yn cael ei wneud yn unol â’r holl ragofalon diogelwch angenrheidiol, ac mae’n bosibl y bydd rhaid gohirio os na fydd y tywydd yn ffafriol.
Anogwn drigolion yr ardal a phartïon sydd â diddordeb i ymuno â’n rhestr bostio er mwyn iddynt allu cael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr amser a’r dyddiad y bydd y simnai’n cael ei dymchwel, yn ogystal â sicrhau man ffafriol a diogel i wylio’r gwaith.
Cofrestrwch yma i sicrhau y cewch y newyddion diweddaraf gan Borthladd Rhydd Ynys Môn.
Fel bob amser, os oes gennych gwestiynau, mae croeso ichi gysylltu â’n tîm cysylltiadau cymunedol drwy info@angleseyfreeport.co.uk