Bydd y sawl sy’n ennill, ynghyd â’i ffrind neu aelod o’i deulu, yn cael cyfle unwaith mewn bywyd i ymuno â’r tîm yn Stena a phwyso’r botwm i ddymchwel y simnai hir eiconig, gan dystio’r digwyddiad cofiadwy y tu ôl i’r llenni wrth iddo ddigwydd.
Bydd tocynnau ar werth rhwng heddiw a dydd Llun nesaf (18 Mawrth), a bydd pob elw yn mynd tuag at elusen yr RNLI er cof annwyl am un o griw gwirfoddol RNLI Caergybi, Iwan Williams, a fu farw y llynedd. Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ddechrau’r wythnos nesaf.
Bu Iwan yn gwirfoddoli gyda RNLI Caergybi ers 1985 ac fe’i disgrifir gan aelod arall o’r criw fel ‘gŵr bonheddig’ a ‘dyn ymroddedig y bad achub’. Mae’r ffordd unigryw hon o godi arian er cof am ei wasanaeth hir a’i gyflawniadau a’i ddewrder anhygoel fel gwirfoddolwr gyda’r RNLI.
Dywedodd Tony Price, Llywiwr Cwch yr RNLI yng Nghaergybi:
‘Un cadarn a chryf oedd Iwan. Drwy’r blynyddoedd, rhoddodd dros 100% i achub bywydau a helpu eraill o gwmpas ein harfordir. Rydym yn hynod ddiolchgar i Stena am roi i ni’r cyfle i elwa ar y ffordd unigryw hon o godi arian er cof amdano. Mae’r simnai yn adeilad eiconig ac rydym yn gobeithio y bydd pobl leol yn awyddus i fentro a chael bod yn rhan o hanes.’
Mae’r Parc Ffyniant ar ddechrau pennod newydd, gyffrous fel un o’r prif safleoedd dafliad carreg oddi wrth Borthladd Rhydd newydd Ynys Môn. Fel perchnogion y Parc Ffyniant, mae Stena Line yn gweithio ar gynlluniau i sicrhau dyfodol newydd, bywiog yn y Parc Ffyniant, a fydd yn gweithredu fel canolfan ar gyfer arloesedd, swyddi medrus a buddsoddiad o bob cwr o’r byd. Cyn y cynlluniau hyn, mae’r Parc Ffyniant yn cael ei glirio i wneud lle ar gyfer buddsoddiad newydd, ac mae dymchwel y simnai yn rhan o’r gwaith hwn.
Dywedodd Ian Davies, Pennaeth Awdurdodau Porthladdoedd y DU yn Stena Line:
‘Dyma gyfle gwych i gymunedau ym mhob cornel o Ynys Môn gyfrannu at ddigwyddiad cofiadwy ar yr ynys. Mae dymchwel y simnai yn y Parc Ffyniant yn ddechrau pennod newydd, gyffrous o ran datblygu’r safle, gan sicrhau dyfodol y safle a sicrhau ei fod yn barod ar gyfer buddsoddiad newydd. Yn ogystal, rwy’n hynod falch y bydd elw’r gystadleuaeth yn mynd at achos mor arbennig – a minnau’n forwr balch ac yn aelod o’r RNLI ers dros 20 mlynedd, gwn pa mor bwysig yw gorsafoedd bad achub lleol i ddiogelwch y rheini ar y môr. Dymunaf bob lwc i bawb sy’n mentro.’
Mae criwiau gwirfoddol yr RNLI mewn pedair gorsaf fad achub ar Ynys Môn; Bae Trearddur, Caergybi, Moelfre a Biwmares yn barod i achub bywydau ar y môr bob awr o’r diwrnod. Eu nod yw achub pob un sy’n mynd i drafferthion yn y dŵr, a gweithio gydag ysgolion, busnesau a grwpiau cymunedol i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol a darparu addysg a lledaenu negeseuon ynghylch diogelwch dŵr er mwyn annog pobl i fwynhau arfordir Ynys Môn yn ddiogel.
Dim ond drwy haelioni cefnogwyr yr RNLI mae modd lansio pob bad achub ac achub pob bywyd.
Bydd y gystadleuaeth yn dod i ben am 9am ddydd Llun 18 Mawrth ac mae modd cymryd rhan am £3. Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i fentro, ond gall y sawl sy’n ennill ddod â ffrind neu aelod o’r teulu i’r digwyddiad (gall yr unigolyn hwn fod yn iau na 18 oed).