Dymchweliad Simnai Caergybi – Cyhoeddiad Cyhoeddus

Mawrth 2024

Rydym yn falch i gyhoeddi fydd dymchweliad y simnai ym Mharc Ffyniant yn digwydd fel y cynlluniwyd yfory (Dydd Mercher 20fed o Fawrth).

Ein prif nôd yw i ymgymryd y tasg mewn ffordd saff efo cyn lleied o amhariad i’r gymuned lleol.

Rydym yn argymell aelodau o’r cyhoedd sydd eisiau gwylio’r dymchweliad i wylio ar y llwybr sy’n baralel I Barc Cybi – mi fydd hwn yn rhoi golwg da tra hefyd yn sicrhau diogelwch. Rydym yn argymell yn gryf i gerdded i’r llwybr o ganlyniad i’r lefel o ddiddordeb sydd wedi cael ei ddangos.

Yn ogystal, fydd caeau Beibo yn le da i wylio, ond nodwch y cyfyngiadau isod.

Er mwyn sicrhau fod protocolau diogelwch yn cael eu dilyn – ac er mwyn sicrhau diogelwch aelodau’r cyhoedd – mi fydd lonydd a mynediadau yn cael eu cau rhwng 1pm a 4pm yfory.

Mi fydd mynediad i draethau Penrhos gan gynnwys y meysydd parcio, a’r glaswelltir i’r gogledd o’r A5 ar gau i’r cyhoedd o’r bore.

Mi fydd yr A5 o’r gylchfan wrth Tesco’s i’r sarn ar gau am gyfnod byr yn syth cyn y dymchweliad. Cyn gynted â sy’n ymarferol, fydd y cyfyngiadau yn cael eu codi.

Ni fydd yr A55 i gyd wedi cau, ond cyn y dymchweliad, fydd yr heddlu yn arafu traffig ar y lôn, yn efelychu “rolling roadblock”. Pwrpas hwn yw i sicrhau na fydd y dymchweliad yn tynnu sylw gyrrwyr, a bod y gyrrwyr yn teithio ar gyflymder digon isel. Mi fydd y ‘roadblock’ yn dechrau rhwng 1pm a 4pm – yr amser fydd y simnai yn cael ei ddymchwel. Mi fydd amhariadau yn cael eu cadw i’r lleiafrif mae diogelwch yn caniatau.

Yn ôl rheolau’r Civil Aviation Authority, mi fydd ardal di-hedfan o 1 milltir o gwmpas y maes er mwyn gwarchod y tîm dymchwel a’r cyhoedd. Ar y ddaear, mi fydd yr ardal gwahardd o gwmpas Parc Ffyniant yn cael ei reoli gan arbenigwyr dymchwel.

Rydyn ni’n ymddiheurio am unrhyw amhariadau mae hwn yn achosi’r gymuned ac yn gofyn yn garedig i bob aelod o’r cyhoedd i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau gan awdurdodau lleol a’r tîm dymchwel fory.

Yn dilyn y dymchweliad, byddwn yn rhyddhau fwy o wybodaeth o’n raffl efo’r RNLI – sydd nawr wedi codi dros £10,000. Yn ogystal, rydym yn gobeithio byddwn medru rhannu darn o ffilm ar gyfer rheini sydd methu gwylio’r dymchweliad yn fyw.

Cefnogir gan