Mae’r gwaith o ddymchwel y corn simnai ym Mharc Ffyniant, Caergybi bellach wedi ei gwblhau. Roedd hyn yn dilyn raffl unigryw a roddodd gyfle i aelod lwcus o’r cyhoedd ddymchwel y tirnod i, ac a lwyddodd i godi dros £10,000 i’r RNLI.
Mwynhaodd yr enillydd Geraint Williams, sy’n wreiddiol o Ynys Môn ond bellach yn byw yn Llanelwy, gyfle unwaith-mewn-oes i ymuno â thîm Stena Line ddydd Mercher (20fed o Fawrth), gan bwyso’r botwm i nodi diwedd oes y Corn Simnai ym Mharc Ffyniant Caergybi. Yn ogystal, bu iddo weld tu ôl i’r llen a gweld y corn yn disgyn.
Bu i gynrychiolwyr o Stena Line yn ogystal ag aelodau o griw’r RNLI o Orsaf Bad Achub Caergybi ymuno â’r enillydd ar y diwrnod.
Cyn ddeifiwr masnachol ym Môr y Gogledd, yw Geraint, a aned ac a fagwyd yn Aberffraw, ac fe ymunodd ei wraig, Lynn, ag ef wrth iddo bwyso’r botwm a newidiodd dirwedd Caergybi am byth. Dywedodd:
‘Anaml y byddaf yn ennill dim byd, ond pan welais y cyfle i fod yn rhan o rywbeth mor arwyddocaol a chefnogi’r RNLI roedd yn rhaid i mi gystadlu. Roeddwn i’n adnabod cymaint o bobl sydd wedi gweithio ar y safle, yn enwedig yn ystod y cyfnod ffyniant. Mae’n strwythur eiconig ac mae helpu i ddod ag ef i lawr wedi bod yn rhywbeth arbennig.
‘Mae fy ngwaith yn y gwasanaethau morol a deifio yn golygu fy mod yn dod i gysylltiad yn rheolaidd â’r RNLI, ac ni allaf feddwl am elusen well i elwa o’r raffl fawr. Rydw i wrth fy modd bod y raffl wedi codi cymaint o arian i elusen, ac rydw i wedi gwirioni fy mod wedi cael y fraint hon.’
Hoffai Stena Line a’r RNLI ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y raffl fawr. Gyda dros 900 o ymgeiswyr, llwyddodd y Crowdfunder i ragori ar ei darged o £10,000 mewn dim ond saith diwrnod. Codwyd arian amhrisiadwy i’r mudiad er cof am aelod hoffus ac uchel ei barch o griw RNLI Caergybi, Iwan Williams – a fu farw’r llynedd.
Bydd yr holl arian a godir yn mynd tuag at achub bywydau ar y môr yn ogystal â dathlu a choffau gwasanaeth hir Iwan, a’i lwyddiannau a’i ddewrder eithriadol fel gwirfoddolwr gyda’r RNLI yng Nghaergybi ac o gwmpas arfordir Ynys Môn. Am ragor o wybodaeth am yr RNLI ewch i rnli.org
Roedd Tony Price, gwirfoddolwr RNLI Caergybi a Steph Price, gwirfoddolwr yr RNLI yn bresennol ar gyfer y gwaith dymchwel. Dywed Tony:
‘Rydym wrth ein bodd ein bod wedi codi dros £10,000 yn y ffordd unigryw hon, ac rydym yn hynod ddiolchgar i Stena am gynnig y cyfle hwn i ni. Bydd pob ceiniog yn mynd tuag at sicrhau bod ein criw gwirfoddol yng Nghaergybi yn gallu parhau i achub bywydau ar y môr. Mae’r ffaith ein bod wedi codi’r arian er cof am Iwan yn fwy arbennig fyth, ac yn goffâd gwych i ddyn a roddodd gymaint i’n gorsaf. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i gymuned Caergybi am gefnogi’r ymgyrch codi arian hon, rydym yn ddiolchgar i bawb a brynodd docyn i ennill y cyfle unigryw hwn.
‘Llongyfarchiadau mawr i Geraint yr enillydd. Pleser pur oedd sefyll wrth ei ochr heddiw i’w wylio’n gwasgu’r botwm a fydd yn newid tirwedd Caergybi am byth. Mae’n foment na wna’i fyth ei anghofio.’
Gall unrhyw un sy’n dymuno rhoi rhodd i RNLI Caergybi ymweld â: www.justgiving.com/page/holyhead-rnli-2024
Mae Stena Line yn gweithio i lunio cynlluniau ar gyfer dyfodol bywiog newydd ar gyfer y Parc Ffyniant. Bydd yn gweithredu fel sylfaen o arloesi, darparu swyddi medrus a buddsoddiad byd-eang. Mae dymchwel y corn simnai ddydd Mercher yn adlewyrchu carreg filltir allweddol yn y bennod nesaf hon o’r Parc Ffyniant, sef clirio’r safle er mwyn i’r gwaith ddechrau.
Dywedodd Ian Davies, Pennaeth Awdurdodau Porthladdoedd y DU ar gyfer Stena Line:
“Hoffem fynegi ein llongyfarchiadau enfawr i enillydd y raffl. Rydym wedi cael ein syfrdanu gan ymateb y gymuned leol. Mae codi’r swm targed mewn saith diwrnod yn destament gwych i etifeddiaeth Iwan, a bydd yn darparu cefnogaeth hanfodol i waith pwysig yr RNLI. Mae heddiw yn ddiwrnod nodedig i ddyfodol y Parc Ffyniant, ac rydym yn teimlo’n gyffrous cael parhau i ymgysylltu â’r gymuned wrth i ni ddatblygu’r buddsoddiad hwn.”
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, Dylan J Williams, “Mae hon yn garreg filltir gadarnhaol gan fod y Cyngor Sir a Stena Line yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni prosiect Porthladd Rhydd Ynys Môn. Mae’n dda gweld ymrwymiadau’n troi’n gamau gweithredol, ac edrychwn ymlaen at weld cais cynllunio yn cael ei gyflwyno ar gyfer ailddatblygu’r safle.
“Tra bod hon yn bennod newydd, ni ddylem anghofio’r diwrnod trist hwnnw yn 2009 pan gaeodd hen waith Alwminiwm Môn, a’r gweithwyr yn taflu eu hetiau caled wrth iddynt adael. Yr ydym yn awr, diolch byth, ar drothwy buddsoddiad a chyflogaeth newydd ar y safle pwysig a hanesyddol hwn.
“Gyda’i gilydd, bydd Cyngor Sir Ynys Môn a Stena Line yn gweithio i sicrhau bod y Parc Ffyniant nawr yn creu ei etifeddiaeth economaidd a chymdeithasol gadarnhaol ei hun. Gobeithiwn ei weld yn dod yn rhan annatod o adfywiad a dyfodol economaidd ein Hynys, gan ddarparu swyddi lleol y mae mawr eu hangen i bobl leol.”
Ychwanegodd Dylan J Williams, “Roedd dymchwel yr hen simnai heddiw yn olygfa wirioneddol. Rwy’n ddiolchgar i Stena Line a phawb a gyfrannodd at wneud y digwyddiad yn ddiogel, yn llwyddiannus ac yn ffordd wych o godi arian i’r RNLI.”
Lluniau o’r simnai’n dymchwel