Llywodraethu a Phartneriaid

Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn yn bartneriaeth bwerus rhwng Cyngor Sir Ynys Môn (CSYM) a Stena Line – un sy’n ymestyn dros bron i dri degawd.

Ers cenedlaethau, mae CSYM a Stena Line wedi cydweithio i hybu newid ar Ynys Môn, gan ddefnyddio eu harbenigedd cyfun i gyflawni ar gyfer trigolion lleol, busnesau ac economi ehangach Gogledd Cymru.

Mae’r Porthladd Rhydd yn y sefyllfa unigryw a breintiedig o weithredu o dan un awdurdod lleol (CSYM), ac un perchennog porthladd, Stena Line – sydd hefyd yn berchen ar wely’r môr o amgylch sy’n ymgorffori parth arloesi glas y Porthladd Rhydd. Mae’r bartneriaeth gref a deinamig hon yn caniatáu mwy o gydlyniant ac undod pwrpas, yn ogystal â gwneud penderfyniadau effeithlon.

Mae’r gwaith o lywodraethu Porthladd Rhydd Ynys Môn yn cael ei oruchwylio gan Fwrdd Llywodraethu Dros Dro y Porthladdoedd Rhydd, sy’n cael ei gyd-gadeirio gan Gyfarwyddwr Gweithredol Stena Line, Ian Hampton, a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn Dylan Williams.

Cefnogir y Porthladd Rhydd gan ystod eang o bartneriaid arbenigol, sy’n ymgorffori awdurdodau blaenllaw’r byd mewn masnach ryngwladol a chyfraith tollau, megis KGH Maersk, Competere a’r Sefydliad Allforio a Masnach Ryngwladol.

Yn ogystal, mae’r Porthladd Rhydd yn y sefyllfa freintiedig o gael ei gefnogi gan amrywiaeth o bartneriaid lleol a rhanbarthol y bydd eu harbenigedd yn chwarae rhan ganolog yn llwyddiant y Porthladd Rhydd – gan gynnwys canolfan arloesi Parc Gwyddoniaeth M-SParc a sefydliadau addysg blaenllaw Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai.

Wrth i ni symud i’r cyfnod gweithredol, bydd Bwrdd Llywodraethu Dros Dro y Porthladdoedd Rhydd yn cael ei ehangu i gynnwys tirfeddianwyr, buddsoddwyr a rhanddeiliaid lleol a rhanbarthol.

Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn Dylan Williams a Phennaeth Awdurdodau Porthladdoedd y Deyrnas Unedig Stena Line Ian Davies ym Mhorthladd Caergybi ym mis Mai 2023, yn dathlu dynodi statws Porthladd Rhydd gyda busnesau lleol a swyddogion etholedig.

Stena Line Mae Stena Line yn un o gwmnïau fferi mwyaf blaenllaw Ewrop gyda 38 o longau a 18 llwybr yn gweithredu 25,000 o deithiau môr bob blwyddyn. Yn arweinydd ym maes morgludiant gwyrdd a phorthladdoedd, mae wedi rhoi cynaliadwyedd amgylcheddol wrth wraidd ei holl weithrediadau yn y dyfodol wrth ymdrechu i ddod yn gwmni di-garbon. Mae gan y cwmni hanes hir a balch o weithredu o Borthladd Caergybi, y bu’n berchen arno ers 27 mlynedd a bellach y gweithredwr fferi a phorthladd mwyaf ym Môr Iwerddon. Mae Stena Line yn deall pwysigrwydd buddsoddiad parhaus yn y cymunedau y mae’n gweithredu ynddynt ac mae’n benderfynol bod y porthladd rhydd newydd yn sicrhau ffyniant i Ogledd Cymru. Cliciwch yma i weld y wefan.

Cyngor Sir Ynys Môn

Cyngor Sir Ynys Môn yw awdurdod lleol yr ynys. Nod y Cyngor yw gweithio tuag at Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus lle gall teuluoedd ffynnu. Mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â’r gymuned i warantu y gallant ymdopi’n effeithiol â newid a datblygiadau, tra’n gwarchod yr amgylchedd naturiol. Mae Cyngor Sir Ynys Môn hefyd yn rhedeg y Rhaglen Ynys Ynni – rhaglen uchelgeisiol o arloesi a buddsoddi mewn ynni gwyrdd y mae’r cais porthladd rhydd hwn yn adeiladu arni.

Cliciwch yma i weld y wefan.

Cefnogir gan