Mae porthladdoedd rhydd yn ardaloedd dynodedig lle mae hwyluso masnach a thollau yn caniatáu i nwyddau gael eu mewnforio, eu cydosod a’u hallforio yn haws. Maent hefyd yn cynnwys safleoedd treth, sy’n annog buddsoddiad i fanteisio ar y cyfleoedd hyn, ac ysgogi twf economaidd lleol. Mae hyn yn golygu na fydd nwyddau sy’n dod i mewn i borthladd rhydd Ynys Môn yn destun mesurau treth a thollau arferol y Deyrnas Unedig nes iddynt ddod i mewn i farchnad y Deyrnas Unedig – ac os cânt eu hailallforio, ni fyddant yn destun mesurau treth arferol y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn gwneud porthladdoedd rhydd yn hynod ddeniadol i fuddsoddwyr sydd am gludo nwyddau drwy’r Deyrnas Unedig, ond sydd hefyd yn ceisio cynnal cystadleurwydd masnachol drwy beidio â chael eu cyfyngu gan fiwrocratiaeth prosesau tollau’r Deyrnas Unedig.
Mae dau achos busnes Porthladd Rhydd Ynys Môn bellach wedi eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Yn fuan, byddwn yn cytuno ar ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, a fydd yn datgloi gwerth £25 miliwn o gyllid sbarduno gan y llywodraeth.
Fel rhan o’r broses barhaus hon, mae Stena Line a CSYM yn awyddus i weithio gyda busnesau a darpar fuddsoddwyr sy’n awyddus i ddatblygu gweithrediadau o fewn safleoedd tollau a threth arbennig y Porthladd Rhydd, ac elwa ar y manteision masnachol a ddaw yn sgil y prosiect.
Os oes gan eich busnes ddiddordeb mewn elwa ar y cyfleoedd unigryw y mae’r Porthladd Rhydd yn eu cynnig – yn amrywio o brosesau gweithgynhyrchu symlach, hawddfreintiau rheoleiddiol a chymhellion treth – llenwch y ffurflen a bydd y tîm yn cysylltu’n ôl.
Mae "*" yn dynodi meysydd gofynnol
"*" indicates required fields